Cywaith aruthrol Ghazalaw yw’r diweddaraf i’w ryddhau ar label Cerys Matthews
Ghazalaw, albwm gyntaf eponymaidd y cywaith Cymru / India, yw’r diweddaraf i gael ei ryddhau ar label recordiau Cerys Matthews, ‘Marvels of the Universe’. Caiff yr albwm ei rhyddhau ar 25ain o Fedi 2015, gyda pherfformiadau byw yng Nghymru a Lloegr yn Nhachwedd 2015. Mae’n gyfarfod cerddorol rhyfeddol rhwng y canwr ghazal a’r cyfansoddwr Indiaidd, Tauseef Akhtar o Mumbai a Gwyneth Glyn, un o gantoriongyfansoddwyr blaenaf Cymru, o Gricieth, Gogledd Cymru.
Mae Ghazalaw yn garwriaeth, yn briodas rhwng dau draddodiad mawr sef canu serch a cherddoriaeth draddodiadol: canu ghazal yr is-gyfandir a chanu gwerin Cymru. Mae’r plethiad yn unigryw – nid yw canu ghazal erioed o’r blaen wedi ei asio ag unrhyw draddodiad cerddorol estron – ac mae’n datgelu perthynas hynod ac annisgwyl rhwng y ddau draddodiad hyn. Mae’r modd y maent yn plethu mor rhwydd i greu rhywbeth newydd yn drawiadol, yn amlwg hyd yn oed.
Bu Tauseef Akhtar yn ‘brentis’ am ddeng mlynedd gyda chanwr ghazal mwyaf yr oes fodern, ‘Brenin y Ghazal’, sef Jagjit Singh, sy’n gyfrifol am dynnu canu ghazal allan o’i glofan Fwslemaidd ac Wrdw; mae Tauseef bellach yn cario’r ffagl ymlaen gyda Ghazalaw.
Mae Gwyneth Glyn wedi ei thrwytho yng nghyfoeth ieithyddol a barddonol ei gwlad enedigol, wedi ei hysbrydoli gan dirwedd Cymru a chanrifoedd o draddodiad. Ond saif ar flaen y gad mewn cenhedlaeth Gymreig newydd sy’n awyddus i ddarganfod a dathlu’r holl debygrwydd sy’n clymu ynghyd dau ran o’r byd sydd mor bell o’i gilydd.
Bydd Ghazalaw yn cael ei rhyddhau ar 25 Medi 2015 ac mae’n gyd-gynhyrchiad rhwng Marvels Of The Universe, Ghazalaw a Theatr Mwldan. Cychwynnwyd y cydweithrediad gan Gelfyddydau Cymru Ryngwladol, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r British Council ac Air India.