• English
  • Cymraeg
  • Newyddion
  • Siop
  • Cefndir

Ghazalaw

  • Y Wasg
  • Gigs
  • Cysylltu

News

Ghazalaw @ Sesiwn Fawr, Dolgellau

Cyffro mawr! Mi fyddwn ni’n chwara ein gig olaf am yr haf am 5:00 bnawn Sul yma (Gorffennaf 17) ar lwyfan y Ship yn Sesiwn Fawr Dogellau.

sesiwnfawr.cymru

Sesiwn fyw ar Raglen BBC Radio 3 World On 3 heno!

Mi fyddwn ni’n chwarae sesiwn fyw i Mary Ann Kennedy ar Raglen World On 3 ar BBC Radio 3 heno o 11pm! Manylion yma.

Sesiwn fyw ar Raglen Werin Mark Radcliffe!

Mi fyddwn ni’n chwarae sesiwn fyw ar Raglen Werin BBC2  Mark Radcliffe heno! Rhowch eich clustiau ar y weirles i gael eich swyno!

Dyddiadau Gwyliau Ghazalaw Mehefin & Gorffennaf 2016

Mae tymor y Gwyliau ar ein gwarthau! Cliciwch yma i weld lle medrwch chi’n gweld ni’n fyw dros y ddeufis nesa.

Rydan ni wedi’n henwebu am wobr werin BBC Radio 2!

Wrth ein boddau o gael ein henwebu am y gân draddodiadol orau (Moliannwn / Ishq Karo) yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2! Bydd y gwobrwyo yn digwydd ar 27ain o Ebrill yn y Royal Albert Hall, Llundain. Darllenwch mwy

Ghazalaw wedi ei henwebu am wobr Grŵp Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Songlines!

Wedi gwirioni o gael ein henwebu am wobr Grŵp Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Songlines! Os gwelwch yn dda dangoswch eich cefnogaeth drwy bleidleisio i Ghazalaw heddiw – a chewch siawns o ennill tocynau ar gyfer WOMAD 2016! Cliciwch yma i bleidleisio:

www.songlines.co.uk

“From Mumbai to Machynlleth” Ghazalaw ar BBC Radio 4

Cafodd rhaglen ddogfen hanner awr am y cywaith, a gynhyrchwyd gan Megan Jones, ei darlledu ar BBC Radio 4 ar y 5ed o Ionawr (a’i hail-ddarlledu ar y 9fed). Aeth y rhaglen yn ei blaen i gael ei dewis gan y newyddiadurwr Sarfraz Manzoor yn o oreuon Radio BBC yr wythnos. Gwrandwch eto yma:

From Mumbai To Machynlleth

Sarfraz Manzoor with the best of BBC Radio this week  (32 muned i mewn)

Cywaith aruthrol Ghazalaw yw’r diweddaraf i’w ryddhau ar label Cerys Matthews

Ghazalaw, albwm gyntaf eponymaidd y cywaith Cymru / India, yw’r diweddaraf i gael ei ryddhau ar label recordiau Cerys Matthews, ‘Marvels of the Universe’. Caiff yr albwm ei rhyddhau ar 25ain o Fedi 2015, gyda pherfformiadau byw yng Nghymru a Lloegr yn Nhachwedd 2015. Mae’n gyfarfod cerddorol rhyfeddol rhwng y canwr ghazal a’r cyfansoddwr Indiaidd, Tauseef Akhtar o Mumbai a Gwyneth Glyn, un o gantoriongyfansoddwyr blaenaf Cymru, o Gricieth, Gogledd Cymru.

Mae Ghazalaw yn garwriaeth, yn briodas rhwng dau draddodiad mawr sef canu serch a cherddoriaeth draddodiadol: canu ghazal yr is-gyfandir a chanu gwerin Cymru. Mae’r plethiad yn unigryw – nid yw canu ghazal erioed o’r blaen wedi ei asio ag unrhyw draddodiad cerddorol estron – ac mae’n datgelu perthynas hynod ac annisgwyl rhwng y ddau draddodiad hyn. Mae’r modd y maent yn plethu mor rhwydd i greu rhywbeth newydd yn drawiadol, yn amlwg hyd yn oed.

Bu Tauseef Akhtar yn ‘brentis’ am ddeng mlynedd gyda chanwr ghazal mwyaf yr oes fodern, ‘Brenin y Ghazal’, sef Jagjit Singh, sy’n gyfrifol am dynnu canu ghazal allan o’i glofan Fwslemaidd ac Wrdw; mae Tauseef bellach yn cario’r ffagl ymlaen gyda Ghazalaw.

Mae Gwyneth Glyn wedi ei thrwytho yng nghyfoeth ieithyddol a barddonol ei gwlad enedigol, wedi ei hysbrydoli gan dirwedd Cymru a chanrifoedd o draddodiad. Ond saif ar flaen y gad mewn cenhedlaeth Gymreig newydd sy’n awyddus i ddarganfod a dathlu’r holl debygrwydd sy’n clymu ynghyd dau ran o’r byd sydd mor bell o’i gilydd.

Bydd Ghazalaw yn cael ei rhyddhau ar 25 Medi 2015 ac mae’n gyd-gynhyrchiad rhwng Marvels Of The Universe, Ghazalaw a Theatr Mwldan. Cychwynnwyd y cydweithrediad gan Gelfyddydau Cymru Ryngwladol, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r British Council ac Air India.

© 2013 Ghazalaw | Gwefan gan Ctrl Alt Design. Logo design: Kiran Sahib

cludwr awyr swyddogol Ghazalaw yw Air India