• English
  • Cymraeg
  • Newyddion
  • Siop
  • Cefndir

Ghazalaw

  • Y Wasg
  • Gigs
  • Cysylltu

Cefndir

Ghazalaw Photographer Guru Dhanoa

Mae Ghazalaw yn ddathliad o’r berthynas rhwng canu Ghazal Indiaidd a’r traddodiad gwerin Cymreig. Mae’r canwr Tauseef Akhtar o Mumbai a’r gantores-gyfansoddwraig Gwyneth Glyn yn plethu canu serch y ddau draddodiad ynghyd i gyfeiliant telyn, tabla, gitâr a harmoniwm.

Cyflwynwyd y canwr ghazal Tauseef Akhtar i Gwyneth Glyn gan eu ffrind cyffredin, Donal Wheelan o Hafod Mastering. Gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru daeth y ddau artist ynghyd i archwilio eu cysylltiad cerddorol. Dros chwe diwrnod yn y Tŷ Crwn, Sant Hilari, ganwyd Ghazalaw.

Ym mis Tachwedd 2012 gwahoddodd Gwyneth y delynores Georgia Ruth i ymuno â hi a Tauseef ym Mumbai i ddatblygu’r caneuon ymhellach gyda’r cerddorion Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das. Perfformiodd Ghazalaw ym Mumbai, yng Ngŵyl Desert, Delhi, ac ymddangosodd yn yr ‘Indiearth Exchange’ yn Chennai.

Cafodd Ghazalaw ei ddewis i arddangos yn WOMEX13 yng Nghaerdydd, a chymerodd ran yng Nghyngerdd Agoriadol WOMEX13, y cafodd ei guradu gan Cerys Matthews. Wedi hynny cymerodd ran mewn taith Gorwelion a pherfformio mewn pedwar lleoliad pwysig yng Nghymru dros bedair noson. Yn Ionawr 2015 cawsant eu gwahodd i chwarae yn Ffair Lyfrau Kolkta, a Ghazal Bahaar ym Mumbai.


Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a nawdd hael gan Air India, dychwelodd y cerddorion i’r Tŷ Crwn i recordio eu halbwm cyntaf o’r un enw ‘Ghazalaw,’ caiff ei ryddhau ar 25ain o Fedi 2015 ar label Cerys Matthews ‘Marvels Of The Universe’ mewn cydweithrediad â Theatr Mwldan..

© 2013 Ghazalaw | Gwefan gan Ctrl Alt Design. Logo design: Kiran Sahib

cludwr awyr swyddogol Ghazalaw yw Air India